Ana(b)log

Wnes i gychwyn swydd newydd yn gynharach y mis ‘ma, a dyna’r prif reswm pam eich bod chi’n darllen hwn, am wn i.

Lecturer in Digital Media, medd yr hyn sydd ar fy nrws – darlithydd cyfryngau digidol, felly, fyddai’r teitl Cymraeg pe byddwn i’n gwneud unrhyw ddysgu trwy gyfrwng yr iaith honno. Ond peidiwch dweud wrth neb, ond rydw i’n bur anesmwyth ynglŷn â’r peth. Nid â’r swydd, deallwch – dyma sut oeddwn i’n teimlo pan wnes i gychwyn, a rydw i dal ar ben fy nigon.

Y broblem yw’r bali gair ‘digidol’ yna. Ymgais amlwg yw e, gan benaethiaid cwricwlwm, i geisio diffinio’r hyn rwy’n ei wneud. Ond yn bell o fod yn rhywbeth blaengar, dibroblem, mae i’r digidol, ac i’r holl gysyniad o ddigidol yn gyffredinol, ei broblemau. Gadewch i fi geisio dangos gymaint o syniad gwael oedd hi i roi’r swydd i fi, wrth i fi’ch drysu chi drwy dechnoleg.

Felly, ddosbarth, dychmygwch fy mod am wybod pa mor dwym yw hi. Dyma i chi thermomedr digidol sy’n gwneud hynny. Beth yw’r dymheredd, nawr, fan hyn?

Wel, ateb digon hawdd, meddech chi. 19.5 gradd Celsiws.

O’r gorau, ddweda i. Beth am y thermomedr merciwri ma? Chi’n gwybod: yr un analog?

A dyma chi’n syllu ar y thermomedr, ac yn sylweddoli hwyrach nad oedd yr ateb digidol mor gywir â hynny. Roedd yn eitha agos i’w le, ond, wrth graffu’n fanwl, fe welwch chi fod 19.7 gradd yn agosach ati. Ac os dewiswch chi ddefnyddio chwyddwydr, neu feicrosgop, neu beth bynnag arall, fe ddewch yn agosach, agosach fyth at y tymheredd go iawn.

Fe welwch chi’r pwynt, gobeithio – ceisio’u gorau glas i efelychu deunydd y byd cig a gwaed wna’r pethau ‘digidol’ ‘ma. Mae ‘na fanteision i wneud hynny, wrth gwrs. Os ydych chi’n gwybod unrhyw beth am theori signalau, fe wyddoch chi fod deunydd digidol yn llawer haws ei drosglwyddo’n glir o’r naill fan i’r llall, heb fod unrhyw ddeunydd arall yn torri ar ei draws. Ac unwaith bod gwybodaeth ar ffurf ddigidol, mae cyfrifiaduron y byd yn medru derbyn, trawsffurfio, dehongli ac anfon mlaen y deunydd hwnnw ar amrantiad: wel, dyna’r theori, o leiaf.

Felly mae’r digidol yn dda, ac yn bŵerus – o fewn rheswm. Gwych iawn os ydych chi’n ceisio anfon dogfen o’r naill ran o’r byd i’r llall: mi wnaiff gyrraedd pen ei thaith yn llawer cyflymach os yw ar ffurf ebost yn hytrach na phapur mewn amlen.

Y peth yw,  mae’r digidol yn llawer llai da, ac yn beryglus hyd yn oed, os ydych chi’n ceisio ei ddefnyddio fel ffordd i ddadlau. Hynny yw, os ydych chi wastad yn anelu at y sero neu’r un, y du neu’r gwyn, y naill begwn neu’r llall. A dyna, fel y gwyddoch chi’n iawn, sy’n nodweddu gymaint o sgyrsiau ar-lein. Dydw i ddim am neidio i dir Marshall McLuhan a thaeru mai’r ‘cyfrwng yw’r neges’ yn gyfangwbl, ond mae’n glir i bawb, rwy’n siŵr, bod ambell gyfrwng yn arwain ei ddenfyddwyr i lawr y llwybr deuaidd hyn. Camp ar y mwyaf yw ceisio cyfathrebu syniadau cymhleth o fewn y 500 o nodau mae sylw YouTube yn ei roi i chi, er enghraifft, heb son am y dim-ond-140 gewch chi wrth drydar.

Ond digon o besimistiaeth. Mae’n edrych yn debyg, i fi, fod na ddadeni o flogio’n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd, a rydyn ni wedi ail-ddarganfod ein rhith-fro ni i raddau helaeth. Mae gan Ifan, Rhodri, Dafydd a Carl, i enwi ond pedwar, gyfraniadau swmpus iawn i bob math o ddadleuon cyfoes. A hyd yn oed pan nad ydw i’n cytuno gant y cant â’r hyn maen nhw’n ei ddweud, mae eu harddull yn gwahodd eraill i gyd-drafod, i gyd-ddadlau ac i gyd-adeiladu eu dadleuon gyda nhw. Nid ‘ie’ neu ‘na’ gewch chi gan y blogwyr gorau, yn fy nhyb i, ond canllaw i’r mannau meddyliol sydd rywle rhwng y ddau begwn. Yn eu meddylfryd, maen nhw’n llawer agosach at yr analog na’r digidol – mae rhesymeg annelwig, weithiau, yn wych o beth.

Felly’r blog hwn hefyd, gobeithio. Dydw i erioed wedi bod yn berson sy’n hoff o eithafion unrhyw ddadl, a rwy’n gobeithio y medra i archwilio’r hyn sy’n fy niddori heb godi gwrychyn neb (ac os gwnaf i, fydd hynny ddim yn fwriadol). Fe flogia i yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ôl fy mympwy, am mai dyna’r math o berson ydw i, er gwell neu waeth. Bydd y mwyafrif o gofnodion o ryw ddefnydd i’m myfyrwyr i, ond fydda i ddim yn ceisio eithrio neb sydd ddim yn deall y dechnoleg na’r syniadaeth y tu ôl iddo.

Ac fy mwriad yw i hwn fod yn hwyl hefyd. Wel, i mi o leiaf. Cawn weld…

3 Responses to Ana(b)log

  1. ‘Digidol’ yw’r ‘horseless’ o’n hoes ni. Mae geiriau o’i fath gallu bod yn ddefnyddiol weithiau – yn enwedig yng Nghymru ac yn y Gymraeg wrth wneud achos am fwy o fuddsoddiad.

  2. Croeso i’r blogfyd!

    Dwi’n cael fy atgoffa’n ddyddiol o’r teimlad 0/1 drwy wrando ar DAB yn Aberystwyth, sydd un ai’n glir neu’n hollol garbwl. Diolch am FM!

    Dwi’n deud ar fy bio Twitter bod gen i ddiddordeb mewn “Cymraeg digidol” sydd yn rhyw fath aralleiriad o “cyfathrebu drwy’r iaith Gymraeg wedi’i gyfryngu drwy gyfrifiadur”. Yn y ffordd yna, dwi ddim yn meddwl bod digidol yn ddi-werth fel term achos bod defnydd yr iaith arlein yn fwy nac efelychiad o ddefnydd iaith cig a gwaed. Ond os oedd gwahaniaeth rhwng “digidol” a “chig a gwaed” mae’r ffin yna’n pylu, neu wedi mynd yn barod.

    • Rwyt ti a Carl yn gywir rwy’n meddwl (a mae’r gymhariaeth gyda’r term ‘horseless’ yn un dda). Rwy newydd roi darlith ddechreuol i’n israddedigion ni bore ma (ail flwyddyn eu gradd) ar gyfryngau newydd/cyfryngau digidol/cyfryngau cymdeithasol/cyfryngau ar-lein/whatevs. Un o’r darlithoedd mwya anodd i mi ei rhoi, nid o ran y cysyniadau, ond o ran gwybod lle i ddechrau a pha ongl i’w gymryd ar yr holl beth. Mae’n wir bod y pedwar term yn eitha tebyg i’w gilydd, ond dydyn nhw ddim cweit run peth – ar ba sail wyt ti’n adeiladu?

      (Es i ar drywydd Henry Jenkins yn y diwedd, via Marshall McLuhan, Raymond Williams a Yochai Benkler. Ond mae hynny’n dweud mwy amdana i na mae’n dweud am unrhyw beth arall, a bod yn onest.)