Trwy ddulliau technoleg? (rhan 1)

Fy hoff beth i yng nghynhadleddau Cyfrwng oedd y sesiynau pryfocio. Hanner awr o sesiwn, pawb yn medru siarad am hyd at ddwy funud yr un: dwedwch eich dweud ar thema’r flwyddyn honno. Rhyw fath o Speaker’s Corner cyfryngol oedd y pryfociadau, gyda rhai’n gwamalu ac eraill yn gwyntyllu, ond y cyfan yn gryno ac, ar ei orau, yn hynod gywrain. Rwy’n cofio’n glir Elan Closs Stephens yn codi ar ei thraed yn y gynhadledd Cydgyfeiriant yn 2008, ac yn gofyn i’r gynulleidfa godi’u llaw os oedden nhw erioed wedi darllen blog (dwylo bron pawb i fyny), wedyn, faint oedd wedi ysgrifennu blog (dim mwy na hanner dwsin)… yna, erioed wedi cynhyrchu neu gyfarwyddo rhaglen deledu neu radio (o ystyried cenhadaeth Cyfrwng, tua hanner y stafell). Ugain eiliad, a’r pwynt am swigen y cyfryngau torfol wedi’i wneud yn glir.

Felly, gan nad ydw i’n medru mynd i Trwy Ddulliau Technoleg na Hacio’r Iaith (caiff fy mab unmlwydd y bai am hynny), beth ddwedwn i tae na sesiwn bryfocio yn y naill gynhadledd neu’r llall?

Wel, diolch i chi am ofyn…

Pryfociad Un

C: O ran canran, pryd ddigwyddodd y cynnydd mwyaf erioed yn y nifer o bobl oedd â rhyw fedr yn y Gymraeg?
A: Awst-Medi 2009.
C: Beth oedd maint y cynnydd hwnnw?
A: Tua 100,000%: 1,000 miliwn o ddefnyddwyr â’r sgiliau angenrheidiol.

Yn Awst 2009 y lansiwyd Google Translate Cymraeg. Os ddwedwn ni fod na tua 1,000,000 o bobl ledled y byd (gor-amcangyfrif, yn fwy na thebyg) oedd, cyn hynny, â rhyw fath o fedr yn y Gymraeg, yna fe allwn ddadlau i Google agor y drws ar y Gymraeg i’r Rhyngrwyd gyfan. Nifer defnyddwyr y Rhyngrwyd yn 2009? Tua 1.8 biliwn o bobl, ac mae’n weddol deg tybio y byddai’r rhelyw yn medru cyrchu gwasanaeth cyfieithu Google. Ond rydw i wedi bod yn geidwadol iawn, ac amcangyfrif nad oedd pob pâr iaith yn ddigon aeddfed ar y pryd, felly mi ddweda ni mai tua biliwn (1,000 miliwn) o bobl fyddai’n deall un o’r prif ieithoedd hynny, a derbyn cyfieithiad synhwyrol o’r Gymraeg i’w hiaith hwy.

Hydref y flwyddyn honno, mi wnaeth cyd-weithiwr, yr Athro (erbyn hyn) David Berry, gysylltu a fi yn y Gymraeg. Roedd hynny’n syndod i fi, gan nad oedd David yn medru’r iaith mewn unrhyw ffordd. Ond medrai ddefnyddio Google Translate, a dyna ni’n dau wedyn yn ebostio’n gilydd, minnau’n teipio Cymraeg rhugl (wel, gweddol rugl…) ac yntau’n defnyddio peiriant Google i gyfieithu, i ddehongli, ac yna i gyfieithu ei ymateb yn ôl i’r Gymraeg.

Yn ddiarwybod i fi, ond yn sicr nid i David, chwarae un o bosau athronyddol mawr y byd cyfieithu peirianyddol oedden ni, sef dadl John Searle am yr Ystafell Tsieineaidd. Dyma’r ymresymiad: rydych chi’n gaeth mewn stafell, gyda llwyth o lyfrau sy’n eich galluogi chi i gyfieithu o’r Gymraeg (wel – o’r Saesneg yn esboniad Searle, ond yr un yw’r ddadl) i sgript Tsieinëeg. Deallwch, dydych chi’ch hun ddim yn medru dehongli’r un gair Tsieinëeg. Ond bob tro mae rhywun yn agor ffenest y stafell ac yn rhoi papur i chi mewn Tsieinëeg, rydych chi’n chwilota’ch rheolau, yn edrych ar y symbolau, ac yn gwbl beirianyddol, yn trosi’r sgript i’r Gymraeg, ac yn ei roi’n ôl wrth ochr y ffenestr i rywun ei gymryd.

Gan bod eich ‘cyfieithiadau’ chi yn rhai perffaith, ydych chi, felly, yn deall Mandarin? Ac, o ystyried pa mor eang eu defnydd mae peiriannau cyfieithu bellach, pam na ddylen ni ystyried defnyddwyr Google Translate ymhlith defnyddwyr y Gymraeg, a’u cynnwys yng nghyfrifiad 2021?

Ond howld on, meddech chi, dyw’r bobl ma ddim yn defnyddio’r iaith mewn unrhyw ffordd ystyrlon. Ac mae mwyafrif llethol y biliwn o bobl gafodd fynediad potensial at gyfieithydd Cymraeg yn 2009 wedi osgoi’r iaith yn gyfangwbl, a chadw at gyfieithu’r Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg…

O’r gorau, digon teg. Ond ystyriwch hyn, felly: mae Mrs Jones Llanrug, bellach, yn heneiddio. Fe’u symudwyd hi gan ei theulu i fflatiau’r henoed ym Mangor, ond dynion a gwragedd dŵad sydd yno fwyaf, ac ambell ddydd ddaw na neb i’w gweld sy’n siarad Cymraeg. Mae hi’n dueddol o anghofio ble mae Radio Cymru ar y deial, ond yn ddigon hapus â Radio 2 fel arfer (hawdd dod o hyd iddo – holl ffordd i’r chwith, wedyn tiwnio’n araf i fyny’r band). Ambell waith fe wyliff hi S4C, ond mae’r Freeview braidd yn dodji ar y gorau, a signal y BBC yn llawer cryfach. Ar y diwrnodau hynny pan nad yw Mrs J yn siarad â neb yn Gymraeg, na chwaith yn gwrando ar wasanaethau cyfryngau Cymraeg, na’n darllen Cymraeg (anodd beth bynnag ag ystyried cyflwr ei llygaid), fedrwn ni wir, mewn difri calon, ei galw’n ddefnyddiwr yr iaith? Pam lai na fedrwn ni ychwanegu un biliwn o bobl at ffigurau’r Gymraeg, felly? Wedi’r cyfan, trwy ddulliau technoleg yn unig y mae llwyddo.

Colomennod, dyma chi’r gath. Cath, dyma chi’r colomennod..

Pryfociad Dau

[yfory, ar ôl cwsg, sori. Gen i syniad cyfangwbl wych ar sut i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i un filiwn (yng Nghymru’n unig), ar gost fydd yn llai na hanner yr hyn mae Llywodraeth Cymru’n ei wario’n flynyddol ar yr iaith. Sut? Wel, trwy adeiladu Rhyngrwyd y Pethe, go iawn…]

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *