Trwy ddulliau technoleg? (rhan 2)

(Ychwanegwyd, fore Sadwrn: slepjan anferth i fi am anghofio nad oes gan y Pi Zero wifi. Fe ychwanegwn ni tua £1 filiwn at y gyllideb er mwyn adeiladu 400,000 o bethau atodol er mwyn galluogi hynny, a chroesi bysedd…)

Gydag ymddiheuriadau lu i Dylan Iorwerth am ddwyn ei arddull arobryn, dyma i chi Bryfociad 2. Un ar gyfer y #cachathon (neu’r bin sbwriel) yw hwn rwy’n amau, ond ys dywed yr hen ddihareb am y gwybedyn, ‘araf bach a bob yn dipyn…’

DRAFFT ANORFFENEDIG
NID I’W GYLCHREDEG AR UNRHYW AMOD
MASNACHOL GYFRINACHOL

Rhyngrwyd y Pethe

Cefndir/Crynodeb

1.1. Ers lansio Siri, y system gynorthwyo awtomatig, ar yr iPhone yn 2011, mae nifer y rhai sy’n cyfathrebu a’u systemau cyfrifiadurol trwy gyfrwng lleferydd wedi codi’n sylweddol. Gwelwyd cynnydd pellach gyda lansiad systemau tebyg ar gyfer y cartref: Amazon Alexa/Echo yw’r amlycaf o’r rhain ond ceir nifer o rai eraill o’r fath. Systemau ymateb rhyngweithiol â llais (Interactive Voice Response – IVR) yw’r term ar y systemau hyn.

1.2 Mae nifer (e.e. Jones et al., 2017) o’r farn bod systemau IVR yn fygythiad sylweddol i ddyfodol y Gymraeg ar yr aelwyd. Y ddadl yw y bydd systemau sy’n cyplysu iaith naturiol a deallusrwydd artiffisial yn cael effaith andwyol ar barth iaith y cartref. Os nad yw’r systemau’n medru’r Gymraeg, Saesneg fydd iaith fwy naturiol yr aelwyd. Mae goblygiadau’r shifft ieithyddol hon yn amlwg ac yn ddirdynnol.

1.3 Ystyrir yn yr adroddiad hwn ymgais bosib i wrthdroi’r shifft a ddisgrifiwyd yn 1.2, a chreu Rhyngrwyd y Pethe (term drafft – union eiriad y teitl i’w drafod), sef rhwydwaith Gymraeg o fotiau fydd nid yn unig yn creu dros ddwsin o swyddi yn sir Penybont-ar-Ogwr, ond yn sicrhau ffyniant yr iaith Gymraeg.

1.4 Nod Rhyngrwyd y Pethe yw ychwanegu tua 400,000 at nifer siaradwyr y Gymraeg. Golyga hyn, o ystyried cyfrifiad 2011, y bydd tua miliwn (1,000,000) o siaradwyr Cymraeg o fewn ffiniau daearyddol Cymru cyn diwedd y prosiect.

Manylion technegol

2.1 Bydd Rhyngrwyd y Pethe yn seiliedig ar system Raspberry Pi Zero (a dalfyrrir yn ‘Zero’ o hyn ymlaen). Cynhyrchir y Zero ym Mhencoed, ger Penybont-ar-Ogwr. Cyfrifiadur un-bwrdd (single-board computer) yw’r Zero, a fwriedir fel system rad i hybu prosiectau codio, ‘creu’ a hacio. Cost y Zero, i unigolyn ei brynu, yw £4.

2.2 Fel arfer, llwythir meddalwedd y Zero ar gerdyn SDHC, sy’n gymharol rad ei gynhyrchu, yn enwedig mewn niferoedd mawr. At ddibenion Rhyngrwyd y Pethe, bydd rhaid cynhyrchu cardiau SDHC sy’n cynnwys:

2.2.1 Meddalwedd arferol y Zero (Linux: Raspbian)
2.2.2 Llais synthetig Cymraeg (IVONA/Festival/Festvox)

2.3 At ddibenion y project hwn, bydd angen ychwanegu modiwl sain at y Zero, am mai dim ond drwy soced HDMI y chwaraeir y sain fel arfer. Amcangyfrifir mai tua 25c/uned fydd cost y modiwl ychwanegol hwn (cydran ddrutaf – soced 3.5mm stereo, tua 5c/uned – angen prisio hwn yn fanwl yn y drafft nesaf)

2.4 Amcangyfrifir y bydd angen cynhyrchu 400,000 o unedau Zero, ynghyd â 400,000 uned o’r modiwl a ddisgrifir yn 2.3. Bydd angen 400,000 cerdyn SDHC (8GB yn ddigonol) ac arnynt y feddalwedd a restrir yn 2.2. Cost eu prynu’n unigol fel defnyddiwr: £2.5 miliwn; cost eu prynu’n fasnachol yn y niferoedd angenrheidiol: llai na £2 miliwn

[nodyn drafft: £2 miliwn ar yr ochr uchel braidd, ond gellir mireinio hyn yn y drafft nesaf. gofyn yn y cyfarfod staff nesaf: oes rhywun yn y swyddfa yn gwybod sut i ddefnyddio Excel? Beth yw cost rhaglennu cerdyn SDHC?]

Gweithredu’r Cynllun

3.1 Dosberthir un uned Zero yr un (cyfrifiadur + modiwl sain + cerdyn SDHC) i 400,000 o aelwydydd di-Gymraeg yng Nghymru, fydd wedi cofrestru ymlaen llaw wrth lenwi ffurflen ar-lein. Gall yr unedau gysylltu â di-wi’r aelwyd yn awtomatig (gweler botymau Amazon am esiampl). O redeg y feddalwedd, bydd yn cofrestru’n awtomatig a’r gweinydd canolog, a letyir ym Machynlleth, Powys.

3.2 Bydd proses gofrestru un (1) uned Zero yn adio un (1) at niferoedd y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Gellir cyfiawnhau hyn yn athronyddol ac yn ymarferol, am fod yr unedau yn cynnwys system leferydd Gymraeg.

[nodyn drafft: rhaid i ni weddïo na weliff unrhyw athronydd go iawn y ddogfen hon. Oes yna ffynonellau fedrai eu darbwyllo? Langdon Winner? Peter-Paul Verbeek? Rhywbeth gan Kittler fel arfer yn gweithio’n iawn, a does neb wir yn ei ddeall e. O ran hynny: Deleuze a Guattari?]

3.3 Bydd y gweinydd a grybwyllwyd yn 3.1 yn cynnwys corpws hanesyddol o destunau safonol llenyddol (sy’n cwmpasu’r ‘Pethe’), mewn ffurf y gellir eu darllen gan y llais synthetig Cymraeg. Deëllir bod system blaen-brosesu/tocyneiddio’r lleisiau wedi bod yn gymharol aeddfed ers tua 2006.

[nodyn drafft: angen trafod union gynnwys corpws 3.3 gydag eraill. angen i adrannau Cymraeg y prifysgolion i gyd gytuno ar destunau Rhyngrwyd y Pethe er osgoi tensiwn yn y dyfodol. hyn yn rhy hunllefus? ysgol brofiad yn dangos bod cael adrannau o’r fath i gytuno â’i gilydd yn peri mân sialensau weithiau. angen creu adran ‘heriau/risgiau’ a gosod y sialens hon yn rhif 1 yn yr adran honno. atebion posibl – cyfarfodydd cyfrinachol? gwell peidio ystyried cyfarfodydd agored: rhy gecrus]

3.4 Yn foreol/nosweithiol, bydd yr unedau, fydd wedi’u cysylltu â seinydd naill ai drwy’r cysylltiad HDMI neu’r cysylltiad 3.5mm stereo, yn cysylltu â’r gweinydd ym Machynlleth ac yna’n dechrau llefaru testun y dydd. Newidir y testun hwn yn gyson.

[yn gyson, h.y. bob dydd? yr un testun dydd Sadwrn a dydd Sul? angen trafod eto, gweler y nodyn ar 3.3.]

Manteision Rhyngrwyd y Pethe

4.1 Ychwanegu at gyflogaeth ardal Pencoed trwy gynhyrchu’r 400,000 uned cychwynnol yn ffatri’r Raspberry Pi (gweler hefyd adran 5.1, a’r unedau newydd fyddai angen eu dosbarthu’n achlysurol yn dilyn prif lansiad y project)

4.2 Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i un filiwn, ac adrodd y ffigwr hynny gobeithio ym mhenawdau Cyfrifiad 2021. Byddai gwireddu’r uchelgais hon, sydd wedi bod yn freuddwyd i ymgyrchwyr ieithyddol ers chwarter canrif a mwy, yn holl-bwysig. O lwyddo yn hyn, prin y gellir gor-bwysleisio’r cynnydd wedyn yn hyder diwylliannol y Gymraeg ac, yn wir, Cymru’n gyffredinol. Mae i’r project hwn effeithiau hir-dymor hynod bositif.

4.3 Ychwanegu at gyfalaf diwylliannol y Gymraeg trwy orfodi i aelwydydd di-Gymraeg wrando ar rai o brif drysorau’r iaith, a gwneud hynny’n gyson iawn.

[angen trafod sut y gallen ni sicrhau bod 4.3 yn digwydd go iawn]

Cyllideb Rhyngrwyd y Pethe

5.1 Fel y crybwyllwyd yn adran 2.4, tua £2 filiwn fydd cost cychwynnol Rhyngrwyd y Pethe. Dylid gosod tua £250,000/flwyddyn wedi hynny er mwyn dosbarthu unedau newydd at yr aelwydydd sydd wedi’u colli, eu difetha neu eu bwyta’n ddamweiniol.

[angen gofyn i’r adran gyfreithiol – ai ni fyddai’n talu biliau vet yr aelwyd pe byddai’r ci yn bwyta’r uned? gwell checkio. ychwanegu at y risgiau?]

5.2 Dylid nodi mai cyllideb blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith Gymraeg, ag eithrio y Gymraeg mewn addysg, yw £6,964,000 (2017-18, gweler tud. 11). Teimlir bod y niferoedd o fewn 5.1 yn cymharu’n eithriadol ffafriol â hyn, yn enwedig o ystyried y manteision o ran cyflogaeth a nodwyd yn 4.1.

Risgiau/Heriau

[adran i’w chwblhau]

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.