Gwell i fi gyfaddau o’r cychwyn – ar y gorau, diodde rygbi ydw i fel camp. Rhaid cyfaddau hefyd bod hynny’n achosi cryn boendod i fi ar adegau. Wedi’r cyfan, oni ges i fy magu yng Nghwm Gwendraeth, calon rygbi Cymru? On’d oedd fy niweddar dad wedi cefnogi Llanelli gydol ei oes ac hyd yn oed wedi prynu debenture i sicrhau ei sedd yn hen Barc yr Arfau? Yn ysgol y Gwendraeth, mi oedd dad am gyfnod yn yr un XV â Carwyn James, ac yn ei arddegau a’i ugeiniau, chwaraeodd dad i dîm Cefneithin ac ennill sawl tlws. Un o uchafbwyntiau bywyd Dad, chwe mis cyn iddo farw o ganser yn Ysbyty Glangwili, oedd ei fod yno (yn ystyr Max Boyce y gair) yn Stadiwm y Mileniwm i weld seremoni a gêm agoriadol Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999.
A fi? Prin y medra i ddal pêl, heb son am redeg gyda hi. Ac mae’n llawer gwell gen i ddilyn trywydd yr Elyrch na’r Gweilch.
Ond fedra i ddim peidio talu rhyw fath o deyrnged i Raymond William Robert Gravell o Fynydd-y-Garreg, fyddai wedi bod yn 70 mlwydd oed heddiw. Gŵr bonheddig yn ystyr llythrennol y gair, llawn cystal yn y stiwdio ddarlledu ag yr oedd ar y cae rygbi – ac o ystyried ei fod wedi ennill 23 cap i Gymru ac wedi helpu trechu’r Crysau Duon ar Barc y Strade, nid ar chwarae bach mae dweud hynny. Byddai mam yn arfer tyngu’n bod ni’n perthyn o bell – Grevilles oedd ei theulu hi, o’r un ardal â Grav, felly mae’n ddigon posib bod ganddi bwynt.
Mae gan bawb gyfarfu â Grav stori i’w hadrodd, felly dyma fy stori i…
Gwaith Llafar ar Dâp Sain, Eisteddfod yr Urdd Tâf Elái, 1991. Y gofyn oedd am raglen radio tua 15-20 munud o hyd, ac mi oeddwn i eisoes wedi ffoli ar radio fel cyfrwng, felly pam lai na chystadlu? Hanner tymor fis Chwefror, fe berswadiais i fy ffrind Dafydd druan mai’r peth gorau i ni ei wneud oedd ymweld â stiwdios y BBC ar Heol Alexandra yn Abertawe.
Roedden ni yno i gyfweld â Sulwyn Thomas, un o enwau mawr Radio Cymru ar y pryd. Roedd Grav yn brysur yn gweithio yn swyddfa Radio Cymru: roedd e’n paratoi sioe geisiadau’r wythnos wedyn, ar ôl gorffen darlledu ychydig oriau ynghynt.
Ac am 11:59 (a 55 eiliad), fe siaradodd Sulwyn fymryn bach yn ormod… a chrasho’r pips! Pechod marwol radio byw, a doedd Grav ddim am adael i Sulwyn anghofio hynny.
Ac am 12:00 (a 3 eiliad), roedd y newyddion yn dod yn fyw o Gaerdydd, a Sulwyn yn cael ychydig o seibiant. Wel, efallai ddim cymaint o seibiant â hynny…
Rhuthrodd presenoldeb mawreddog Grav i mewn i ystafell reoli Stondin Sulwyn. Gwelais Deiniol, y cynhyrchydd, yn ochneidio, ac yn syth bin, pwysodd Dafydd y botwm recordio ar ein dec casét ni. Ac yna, unwaith i Ray Gravell weld bod ein tâp yn rhedeg, bloeddiodd:
“MAE E WEDI CRASHO’R PIPS! MAE SULWYN WEDI CRASHO’R PIPS, BOIS! DYW GRAV BYTH YN CRASHO’R PIPS! MAE GRAV YN CHWALU’R PIPS YN RHACS! MAE E’N GWEUD, “SHGWLWCH NAWR PIPS, ROIA I PIPS I CHI! ROIA I PIPS I CHI I’R CHWITH, PIPS I CHI I’R DDE, A PIP PIP HWRÊ I CHI I GYD!”
Ac yna, ar ôl sgwrsio’n siriol gyda ni (‘Bro Myrddin ŷch chi, bois?’) a dymuno pob hwyl i ni yn y steddfod, fe aeth i mewn i stiwdio Sulwyn a’i boenydio am weddill bwletin Caerdydd.
Wel, beth ddweden ni am hynny felly? Clown, yn ystyr orau’r gair, a chawr, hefyd yn ystyr orau’r gair. Fe enillon ni’r gystadleuaeth, gyda llaw. Ocê, gwell bod yn onest – un cais ddaeth i law, ond teilyngdod yw teilyngdod, ie? Darn Grav oedd yr uchafbwynt yn ddi-os, yn ôl y beirniad.
Heb or-ystrydebu, gobeithio wir bod Grav bellach yn rhywle lle nad oes neb byth yn crasho’r pips. Os nad yw, rwy’n siŵr y medr ddysgu gwers bach iddyn nhw.