Category Archives: Cymraeg

Bywyd yn 2020

Siŵr iawn bod pawb, rywbryd yn yr ysgol gynradd neu’n gynnar yn yr ysgol uwchradd, wedi cael gwaith cartref ar Fywyd yn y Dyfodol. Y testun wnaeth Mr John osod i ni ym mlwyddyn 5 yn y Dderwen oedd Bywyd yn 2020 (isod, heb gywiro gramadeg, treiglo na sillafu), ac am wn i, heddiw yw’r diwrnod i mi weld pa mor agos ati oeddwn i...

Bywyd yn 2020
Dydd Sul-29-1-1984

7.00. “Helo Rhys. Te neu goffi heddiw?” mae fy robot yn gofyn. “Te” meddwn innau. Mae hwn yn digwydd bob bore am saith. Ar ôl yfed y te, mynd i mewn i’r symudwr llawr. Gwasgu’r botwm “Ystafell fyw.” Mae’r symudwr llawr rhywbeth yn debyg i lifftiau ‘slawer dydd. Beth bynnag, mae’r drysau’n agor i ystafell weddol o fach a panel o fotymau yn ei chanol. Rwyf yn eistedd ar gadair a gwasgu’r botymau: “Brecwast,” “Grawnffrwyth,” “Wy,” “Sosej,” “Bacwn,” a “Diwedd.” Ychydig o synau od ac mae papur bychan yn dod allan o’r panel. Dyma beth sydd ar y papur:

BRECWAST.
Grawnffrwyth – Barod mewn 15 eiliad.
Wy, Sosej a Bacwn – Barod mewn 2 funud.
Te neu Goffi?

Gwasgu “Te” a dyma gwpanaid o de a grawnffrwyth yn dod at fy nghadair. Gwasgu “Bwrdd” a dyma fwrdd yn dod allan o dwll yn y llawr. Cyn mynd, mae fy robot yn fy atgoffa i ddewis fy nghinio yn awr. Gwasgu rhagor o fotymau ac mae’r robot yn dweud wrtha i am fod yma an un yn brydlon. Dyma’r drefn bob pryd bwyd. Rwyf yn gwasgu “Diwedd” ac mae’r bwrdd yn mynd i lawr i gael ei lanhau erbyn cinio.

Gwasgu’r botwm “Cyfrifiadur.” Allan o’r twll yn y llawr daw’r peiriant. Cyfrifiadur heb fotymau yw hwn. Mae’n medru siarad a dehongli eich llais. “Newyddion” rwyf yn dweud. Dyma’r teclyn yn dechrau. “Dyma’r penawdau. Mil o robotiaid yn mynd ar streic mewn ffactri rocedi yn Manceinion. Plant ysgolion Dyfed yn mynd ar drip i’r blaned Pliwto heddiw. Mae’r Senedd yn cyfarfod heddiw i drafod cael twnel i fobilau o dan yr Afon Hafren.” Gwasgu’r botwm “Diwedd.” Lawr a’r cyfrifiadur i’r twll.

Gwasgu “Fideoffon.” Daw’r teclyn i fyny o’r llawr. Rwyf yn codi’r derbynnydd a rhoi’r camera yn y lle priodol. Teipio rhif fy nghefnder ar y panel arbennig. Aros am eiliad. Gweld ei lun yn ei gartref yn Llundain, yntau hefyd ar wyliau. Cael sgwrs fach gyfeillgar a threfnu mynd i’w weld ar ôl cinio.

Tua 12.00. Mae fy hamddena yn cael ei dorri ar draws gan swn byddarol y fideoffon. Galwad i mi. Rwyf i fod i ddod i ganolfan waith Robotiaid Dyfed lle rydwyf yn gweithio. Mae nam yn y rhaglen waith yn peri i’r robotiaid redeg yn wyllt. Brysio i’r mobil. Gwasgu’r botymau “Ffactri” a “500 kilomedr yr awr.” Dal yn dynn – ac ymhen eiliad rwyf wedi cwblhau’r daith o ddeg kilomedr. Ar ol tri chwarter awr o wasgu botymau, mae popeth yn ei le yn y ganolfan.

1.00. Adre i ginio.

1.30. I mewn i’r mobil. Gwasgu’r botymau “Llundain” a “400 kilomedr yr awr.” Eistedd yn ol yn gysurus a darllen llyfr. Cyrraedd Llundain o’r diwedd, a gweld fy nghefnder. Diwrnod o wyliau i ni’n dau. Prynhawn mewn arddangosfa arbennig o’r enw “Bywyd yn yr wythdegau.” Gweld rhyfeddodau. Dim ond un robot a hwnnw’n lletchwyth a thrwscwl iawn. (O diar, meddyliwch am wneud prydiau bwyd heb help un o’r rhain!) Gweld y ZX81. Mae hwn yn hen ffasiwn ofnadwy, rhes ar ol rhes o fotymau gwirion a dim ond 16k o gof – tegan plant bach yn unig oedd hwn. Ond eto, roedd miliwn o fobl wedi ei brynu – rhywbeth anodd ei gredu.

Ond y rhyfeddod mwyaf oedd teclyn o’r enw car. Bocs enfawr ar olwynion yn defnyddio rhywbeth o’r enw petrol ac yn pesychu hen fwg brwnt ambell waith. Teclyn drud yn llyncu hylif costus. Dillad! Roedd pobl yn golchi a smwddio dillad yr adeg yna. Diolch am ddillad rhad gallwch ei thaflu i ffwrdd ar ol wythnos o wisgo.

Dyna brynhawn diddorol, ond rhaid i bob peth da ddod i ben ac adre a mi dros ail bont Hafren. Galw gyda’r meddyg. Aros o flaen y sgrin fawr a hwnnw’n dweud fy mod yn holliach. Ar ôl cael pryd o fwyd blasus, chwarae gwyddbwyll gyda’r cyfrifiadur. Mae’r gêm yn mynd ymlaen am oriau ond yn y diwedd yr un peth sy’n digwydd tro ar ôl tro – y cyfrifiadur sy’n ennill.

Cael sgwrs a fy robot am holl ddigwyddiadau’r dydd. Bydd y robot yn ei dro yn rhoi crynodeb o’r digwyddiadau i gyd i mewn i lyfr arbennig o’r enw “dyddiadur.” Ar ôl blwyddyn bydd y robot yn rhoi y llyfr hwn i mi i gadw am byth ac efallai rhoi i fy mhlant – pwy a wyr. Cau fy llygaid a mynd i gysgu ar ôl diwrnod prysur iawn. Nos da!

England’s screaming? 3D Monster Maze (1981) and punk auteurism in 8-bit programming

[Meant for an internal Swansea University audience at this stage, but drop me a line, wherever you are, if this sort of thing appeals to you. It’s almost the definition of a work in progress though: please don’t expect much finesse.]

Dr Rhys Jones
Department of Media and Communication // Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu
Keir Hardie 206, Wednesday April 26th // Dydd Mercher Ebrill 26ain

This talk will be given in English // Traddodir y sgwrs hon yn Saesneg

How do we theorise a videogame? What importance do we place on its history, genre, narrative or gameplay? In this work-in-progress talk, I explore such questions using one game in particular: Malcolm Evans’ 1981 debut, 3D Monster Maze (3DMM). A silent game programmed for the black-and-white Sinclair ZX81 microcomputer, it has been seen by some as the progenitor of first-person shooters and even survival horror. I suggest that, in examining single-author productions such as 3DMM, it is essential to focus on the nature and context of the tools used in their creation. I tentatively advance the concept of ‘punk auteurism’ as a way to explore the DIY nature of microcomputer programming, and the singular vision of its practitioners. Is this an adequate way to explore the shaping of programs such as 3DMM? Join our intrepid hero as he examines a labyrinthine world of competing theories and methodologies, and attempts to emerge from the maze with his credibility (partially) intact.

Sut fedrwn ni ddamcaniaethu gêm fideo? Pa bwysigrwydd rown ni ar ei hanes, ei genre, ei naratif neu’r ffordd o’i chwarae? Yn y sgwrs hon, sy’n waith ar y gweill, rwy’n ymchwilio i gwestiynau o’r fath gan ganolbwyntio ar gêm gyntaf Malcolm Evans, sef 3D Monster Maze (3DMM), a ryddhawyd ym 1981. Rhaglennwyd hi ar gyfer y Sinclair ZX81, microgyfrifiadur du-a-gwyn, mud, ac fe’i gwelir gan rai yn un o hynafiaid gemau saethu person cyntaf, a hyd yn oed gemau arswyd ‘para’n fyw’. Awgrymaf, wrth archwilio cynyrchiadau un-awdur megis 3DMM, ei bod yn hanfodol canolbwyntio ar natur a chyd-destun y dulliau a ddefnyddir wrth eu creu. Petrusaf wrth gyflwyno’r cysyniad o ‘auteuraeth byncaidd’ fel ffordd i archwilio natur DIY y broses o raglennu microgyfrifiadur, yn ogystal â gweledigaeth unigryw yr ymarferwyr. A yw hyn yn ffordd ddigonol i archwilio rhaglenni fel 3DMM? Ymunwch â’n harwr dewr mewn drysfa o ddamcaniaethau a methodolegau, wrth iddo geisio cadw’i hygrededd yn (weddol) gyfan wrth ddianc.

Trwy ddulliau technoleg? (rhan 2)

(Ychwanegwyd, fore Sadwrn: slepjan anferth i fi am anghofio nad oes gan y Pi Zero wifi. Fe ychwanegwn ni tua £1 filiwn at y gyllideb er mwyn adeiladu 400,000 o bethau atodol er mwyn galluogi hynny, a chroesi bysedd…)

Gydag ymddiheuriadau lu i Dylan Iorwerth am ddwyn ei arddull arobryn, dyma i chi Bryfociad 2. Un ar gyfer y #cachathon (neu’r bin sbwriel) yw hwn rwy’n amau, ond ys dywed yr hen ddihareb am y gwybedyn, ‘araf bach a bob yn dipyn…’

DRAFFT ANORFFENEDIG
NID I’W GYLCHREDEG AR UNRHYW AMOD
MASNACHOL GYFRINACHOL

Rhyngrwyd y Pethe

Cefndir/Crynodeb

1.1. Ers lansio Siri, y system gynorthwyo awtomatig, ar yr iPhone yn 2011, mae nifer y rhai sy’n cyfathrebu a’u systemau cyfrifiadurol trwy gyfrwng lleferydd wedi codi’n sylweddol. Gwelwyd cynnydd pellach gyda lansiad systemau tebyg ar gyfer y cartref: Amazon Alexa/Echo yw’r amlycaf o’r rhain ond ceir nifer o rai eraill o’r fath. Systemau ymateb rhyngweithiol â llais (Interactive Voice Response – IVR) yw’r term ar y systemau hyn.

1.2 Mae nifer (e.e. Jones et al., 2017) o’r farn bod systemau IVR yn fygythiad sylweddol i ddyfodol y Gymraeg ar yr aelwyd. Y ddadl yw y bydd systemau sy’n cyplysu iaith naturiol a deallusrwydd artiffisial yn cael effaith andwyol ar barth iaith y cartref. Os nad yw’r systemau’n medru’r Gymraeg, Saesneg fydd iaith fwy naturiol yr aelwyd. Mae goblygiadau’r shifft ieithyddol hon yn amlwg ac yn ddirdynnol.

1.3 Ystyrir yn yr adroddiad hwn ymgais bosib i wrthdroi’r shifft a ddisgrifiwyd yn 1.2, a chreu Rhyngrwyd y Pethe (term drafft – union eiriad y teitl i’w drafod), sef rhwydwaith Gymraeg o fotiau fydd nid yn unig yn creu dros ddwsin o swyddi yn sir Penybont-ar-Ogwr, ond yn sicrhau ffyniant yr iaith Gymraeg.

1.4 Nod Rhyngrwyd y Pethe yw ychwanegu tua 400,000 at nifer siaradwyr y Gymraeg. Golyga hyn, o ystyried cyfrifiad 2011, y bydd tua miliwn (1,000,000) o siaradwyr Cymraeg o fewn ffiniau daearyddol Cymru cyn diwedd y prosiect.

Manylion technegol

2.1 Bydd Rhyngrwyd y Pethe yn seiliedig ar system Raspberry Pi Zero (a dalfyrrir yn ‘Zero’ o hyn ymlaen). Cynhyrchir y Zero ym Mhencoed, ger Penybont-ar-Ogwr. Cyfrifiadur un-bwrdd (single-board computer) yw’r Zero, a fwriedir fel system rad i hybu prosiectau codio, ‘creu’ a hacio. Cost y Zero, i unigolyn ei brynu, yw £4.

2.2 Fel arfer, llwythir meddalwedd y Zero ar gerdyn SDHC, sy’n gymharol rad ei gynhyrchu, yn enwedig mewn niferoedd mawr. At ddibenion Rhyngrwyd y Pethe, bydd rhaid cynhyrchu cardiau SDHC sy’n cynnwys:

2.2.1 Meddalwedd arferol y Zero (Linux: Raspbian)
2.2.2 Llais synthetig Cymraeg (IVONA/Festival/Festvox)

2.3 At ddibenion y project hwn, bydd angen ychwanegu modiwl sain at y Zero, am mai dim ond drwy soced HDMI y chwaraeir y sain fel arfer. Amcangyfrifir mai tua 25c/uned fydd cost y modiwl ychwanegol hwn (cydran ddrutaf – soced 3.5mm stereo, tua 5c/uned – angen prisio hwn yn fanwl yn y drafft nesaf)

2.4 Amcangyfrifir y bydd angen cynhyrchu 400,000 o unedau Zero, ynghyd â 400,000 uned o’r modiwl a ddisgrifir yn 2.3. Bydd angen 400,000 cerdyn SDHC (8GB yn ddigonol) ac arnynt y feddalwedd a restrir yn 2.2. Cost eu prynu’n unigol fel defnyddiwr: £2.5 miliwn; cost eu prynu’n fasnachol yn y niferoedd angenrheidiol: llai na £2 miliwn

[nodyn drafft: £2 miliwn ar yr ochr uchel braidd, ond gellir mireinio hyn yn y drafft nesaf. gofyn yn y cyfarfod staff nesaf: oes rhywun yn y swyddfa yn gwybod sut i ddefnyddio Excel? Beth yw cost rhaglennu cerdyn SDHC?]

Gweithredu’r Cynllun

3.1 Dosberthir un uned Zero yr un (cyfrifiadur + modiwl sain + cerdyn SDHC) i 400,000 o aelwydydd di-Gymraeg yng Nghymru, fydd wedi cofrestru ymlaen llaw wrth lenwi ffurflen ar-lein. Gall yr unedau gysylltu â di-wi’r aelwyd yn awtomatig (gweler botymau Amazon am esiampl). O redeg y feddalwedd, bydd yn cofrestru’n awtomatig a’r gweinydd canolog, a letyir ym Machynlleth, Powys.

3.2 Bydd proses gofrestru un (1) uned Zero yn adio un (1) at niferoedd y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Gellir cyfiawnhau hyn yn athronyddol ac yn ymarferol, am fod yr unedau yn cynnwys system leferydd Gymraeg.

[nodyn drafft: rhaid i ni weddïo na weliff unrhyw athronydd go iawn y ddogfen hon. Oes yna ffynonellau fedrai eu darbwyllo? Langdon Winner? Peter-Paul Verbeek? Rhywbeth gan Kittler fel arfer yn gweithio’n iawn, a does neb wir yn ei ddeall e. O ran hynny: Deleuze a Guattari?]

3.3 Bydd y gweinydd a grybwyllwyd yn 3.1 yn cynnwys corpws hanesyddol o destunau safonol llenyddol (sy’n cwmpasu’r ‘Pethe’), mewn ffurf y gellir eu darllen gan y llais synthetig Cymraeg. Deëllir bod system blaen-brosesu/tocyneiddio’r lleisiau wedi bod yn gymharol aeddfed ers tua 2006.

[nodyn drafft: angen trafod union gynnwys corpws 3.3 gydag eraill. angen i adrannau Cymraeg y prifysgolion i gyd gytuno ar destunau Rhyngrwyd y Pethe er osgoi tensiwn yn y dyfodol. hyn yn rhy hunllefus? ysgol brofiad yn dangos bod cael adrannau o’r fath i gytuno â’i gilydd yn peri mân sialensau weithiau. angen creu adran ‘heriau/risgiau’ a gosod y sialens hon yn rhif 1 yn yr adran honno. atebion posibl – cyfarfodydd cyfrinachol? gwell peidio ystyried cyfarfodydd agored: rhy gecrus]

3.4 Yn foreol/nosweithiol, bydd yr unedau, fydd wedi’u cysylltu â seinydd naill ai drwy’r cysylltiad HDMI neu’r cysylltiad 3.5mm stereo, yn cysylltu â’r gweinydd ym Machynlleth ac yna’n dechrau llefaru testun y dydd. Newidir y testun hwn yn gyson.

[yn gyson, h.y. bob dydd? yr un testun dydd Sadwrn a dydd Sul? angen trafod eto, gweler y nodyn ar 3.3.]

Manteision Rhyngrwyd y Pethe

4.1 Ychwanegu at gyflogaeth ardal Pencoed trwy gynhyrchu’r 400,000 uned cychwynnol yn ffatri’r Raspberry Pi (gweler hefyd adran 5.1, a’r unedau newydd fyddai angen eu dosbarthu’n achlysurol yn dilyn prif lansiad y project)

4.2 Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i un filiwn, ac adrodd y ffigwr hynny gobeithio ym mhenawdau Cyfrifiad 2021. Byddai gwireddu’r uchelgais hon, sydd wedi bod yn freuddwyd i ymgyrchwyr ieithyddol ers chwarter canrif a mwy, yn holl-bwysig. O lwyddo yn hyn, prin y gellir gor-bwysleisio’r cynnydd wedyn yn hyder diwylliannol y Gymraeg ac, yn wir, Cymru’n gyffredinol. Mae i’r project hwn effeithiau hir-dymor hynod bositif.

4.3 Ychwanegu at gyfalaf diwylliannol y Gymraeg trwy orfodi i aelwydydd di-Gymraeg wrando ar rai o brif drysorau’r iaith, a gwneud hynny’n gyson iawn.

[angen trafod sut y gallen ni sicrhau bod 4.3 yn digwydd go iawn]

Cyllideb Rhyngrwyd y Pethe

5.1 Fel y crybwyllwyd yn adran 2.4, tua £2 filiwn fydd cost cychwynnol Rhyngrwyd y Pethe. Dylid gosod tua £250,000/flwyddyn wedi hynny er mwyn dosbarthu unedau newydd at yr aelwydydd sydd wedi’u colli, eu difetha neu eu bwyta’n ddamweiniol.

[angen gofyn i’r adran gyfreithiol – ai ni fyddai’n talu biliau vet yr aelwyd pe byddai’r ci yn bwyta’r uned? gwell checkio. ychwanegu at y risgiau?]

5.2 Dylid nodi mai cyllideb blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith Gymraeg, ag eithrio y Gymraeg mewn addysg, yw £6,964,000 (2017-18, gweler tud. 11). Teimlir bod y niferoedd o fewn 5.1 yn cymharu’n eithriadol ffafriol â hyn, yn enwedig o ystyried y manteision o ran cyflogaeth a nodwyd yn 4.1.

Risgiau/Heriau

[adran i’w chwblhau]

Trwy ddulliau technoleg? (rhan 1)

Fy hoff beth i yng nghynhadleddau Cyfrwng oedd y sesiynau pryfocio. Hanner awr o sesiwn, pawb yn medru siarad am hyd at ddwy funud yr un: dwedwch eich dweud ar thema’r flwyddyn honno. Rhyw fath o Speaker’s Corner cyfryngol oedd y pryfociadau, gyda rhai’n gwamalu ac eraill yn gwyntyllu, ond y cyfan yn gryno ac, ar ei orau, yn hynod gywrain. Rwy’n cofio’n glir Elan Closs Stephens yn codi ar ei thraed yn y gynhadledd Cydgyfeiriant yn 2008, ac yn gofyn i’r gynulleidfa godi’u llaw os oedden nhw erioed wedi darllen blog (dwylo bron pawb i fyny), wedyn, faint oedd wedi ysgrifennu blog (dim mwy na hanner dwsin)… yna, erioed wedi cynhyrchu neu gyfarwyddo rhaglen deledu neu radio (o ystyried cenhadaeth Cyfrwng, tua hanner y stafell). Ugain eiliad, a’r pwynt am swigen y cyfryngau torfol wedi’i wneud yn glir.

Felly, gan nad ydw i’n medru mynd i Trwy Ddulliau Technoleg na Hacio’r Iaith (caiff fy mab unmlwydd y bai am hynny), beth ddwedwn i tae na sesiwn bryfocio yn y naill gynhadledd neu’r llall?

Wel, diolch i chi am ofyn…

Pryfociad Un

C: O ran canran, pryd ddigwyddodd y cynnydd mwyaf erioed yn y nifer o bobl oedd â rhyw fedr yn y Gymraeg?
A: Awst-Medi 2009.
C: Beth oedd maint y cynnydd hwnnw?
A: Tua 100,000%: 1,000 miliwn o ddefnyddwyr â’r sgiliau angenrheidiol.

Yn Awst 2009 y lansiwyd Google Translate Cymraeg. Os ddwedwn ni fod na tua 1,000,000 o bobl ledled y byd (gor-amcangyfrif, yn fwy na thebyg) oedd, cyn hynny, â rhyw fath o fedr yn y Gymraeg, yna fe allwn ddadlau i Google agor y drws ar y Gymraeg i’r Rhyngrwyd gyfan. Nifer defnyddwyr y Rhyngrwyd yn 2009? Tua 1.8 biliwn o bobl, ac mae’n weddol deg tybio y byddai’r rhelyw yn medru cyrchu gwasanaeth cyfieithu Google. Ond rydw i wedi bod yn geidwadol iawn, ac amcangyfrif nad oedd pob pâr iaith yn ddigon aeddfed ar y pryd, felly mi ddweda ni mai tua biliwn (1,000 miliwn) o bobl fyddai’n deall un o’r prif ieithoedd hynny, a derbyn cyfieithiad synhwyrol o’r Gymraeg i’w hiaith hwy.

Hydref y flwyddyn honno, mi wnaeth cyd-weithiwr, yr Athro (erbyn hyn) David Berry, gysylltu a fi yn y Gymraeg. Roedd hynny’n syndod i fi, gan nad oedd David yn medru’r iaith mewn unrhyw ffordd. Ond medrai ddefnyddio Google Translate, a dyna ni’n dau wedyn yn ebostio’n gilydd, minnau’n teipio Cymraeg rhugl (wel, gweddol rugl…) ac yntau’n defnyddio peiriant Google i gyfieithu, i ddehongli, ac yna i gyfieithu ei ymateb yn ôl i’r Gymraeg.

Yn ddiarwybod i fi, ond yn sicr nid i David, chwarae un o bosau athronyddol mawr y byd cyfieithu peirianyddol oedden ni, sef dadl John Searle am yr Ystafell Tsieineaidd. Dyma’r ymresymiad: rydych chi’n gaeth mewn stafell, gyda llwyth o lyfrau sy’n eich galluogi chi i gyfieithu o’r Gymraeg (wel – o’r Saesneg yn esboniad Searle, ond yr un yw’r ddadl) i sgript Tsieinëeg. Deallwch, dydych chi’ch hun ddim yn medru dehongli’r un gair Tsieinëeg. Ond bob tro mae rhywun yn agor ffenest y stafell ac yn rhoi papur i chi mewn Tsieinëeg, rydych chi’n chwilota’ch rheolau, yn edrych ar y symbolau, ac yn gwbl beirianyddol, yn trosi’r sgript i’r Gymraeg, ac yn ei roi’n ôl wrth ochr y ffenestr i rywun ei gymryd.

Gan bod eich ‘cyfieithiadau’ chi yn rhai perffaith, ydych chi, felly, yn deall Mandarin? Ac, o ystyried pa mor eang eu defnydd mae peiriannau cyfieithu bellach, pam na ddylen ni ystyried defnyddwyr Google Translate ymhlith defnyddwyr y Gymraeg, a’u cynnwys yng nghyfrifiad 2021?

Ond howld on, meddech chi, dyw’r bobl ma ddim yn defnyddio’r iaith mewn unrhyw ffordd ystyrlon. Ac mae mwyafrif llethol y biliwn o bobl gafodd fynediad potensial at gyfieithydd Cymraeg yn 2009 wedi osgoi’r iaith yn gyfangwbl, a chadw at gyfieithu’r Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg…

O’r gorau, digon teg. Ond ystyriwch hyn, felly: mae Mrs Jones Llanrug, bellach, yn heneiddio. Fe’u symudwyd hi gan ei theulu i fflatiau’r henoed ym Mangor, ond dynion a gwragedd dŵad sydd yno fwyaf, ac ambell ddydd ddaw na neb i’w gweld sy’n siarad Cymraeg. Mae hi’n dueddol o anghofio ble mae Radio Cymru ar y deial, ond yn ddigon hapus â Radio 2 fel arfer (hawdd dod o hyd iddo – holl ffordd i’r chwith, wedyn tiwnio’n araf i fyny’r band). Ambell waith fe wyliff hi S4C, ond mae’r Freeview braidd yn dodji ar y gorau, a signal y BBC yn llawer cryfach. Ar y diwrnodau hynny pan nad yw Mrs J yn siarad â neb yn Gymraeg, na chwaith yn gwrando ar wasanaethau cyfryngau Cymraeg, na’n darllen Cymraeg (anodd beth bynnag ag ystyried cyflwr ei llygaid), fedrwn ni wir, mewn difri calon, ei galw’n ddefnyddiwr yr iaith? Pam lai na fedrwn ni ychwanegu un biliwn o bobl at ffigurau’r Gymraeg, felly? Wedi’r cyfan, trwy ddulliau technoleg yn unig y mae llwyddo.

Colomennod, dyma chi’r gath. Cath, dyma chi’r colomennod..

Pryfociad Dau

[yfory, ar ôl cwsg, sori. Gen i syniad cyfangwbl wych ar sut i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i un filiwn (yng Nghymru’n unig), ar gost fydd yn llai na hanner yr hyn mae Llywodraeth Cymru’n ei wario’n flynyddol ar yr iaith. Sut? Wel, trwy adeiladu Rhyngrwyd y Pethe, go iawn…]

Data rhesymol fawr / Reasonably big data, 2015-11-17, 13:00

CODAH-SU-logo-24-300x94

CODAH – Centre on Digital Arts and Humanities
CODAH – Canolfan y Celfyddydau a’r Dyniaethau Digidol

Reasonably Big Data – #DataRhesymolFawr
SURF Room, Fulton House, Singleton Campus
1pm, Tuesday 17th November

Dr Rhys Jones: Department of Languages, Translation and Communication, Swansea University/Adran Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu, Prifysgol Abertawe
Dr Daniel Cunliffe: Faculty of Computing, Engineering and Science, University of South Wales/Cyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth, Prifysgol De Cymru

Traddodir y sgwrs trwy gyfrwng y Saesneg – This talk will be given in English

We outline our work in progress on the use of Twitter by the political parties who contested the 2014 European and 2015 UK general elections in Wales. We build on our existing work (Cunliffe, 2008, 2011) which examined the relative levels of Welsh-language provision on party websites during the 2007 Welsh Assembly and 2010 UK elections, and bring to it our previous research (Jones, Cunliffe and Honeycutt, 2013) on Twitter and the Welsh language.

However, this will mainly be a talk about the challenges of ‘data rhesymol fawr’, or, in English, ‘reasonably big data’. We now have a corpus of over 40,000 tweets from 12 political parties, and we will outline the challenges we face in analysis and discuss possible methodologies for constructing and discovering meaning in what we have collected.

Byddwn yn amlinellu ein gwaith ar-y-gweill ar y defnydd o Twitter gan y pleidiau gwleidyddol hynny a ymladdodd, yng Nghymru, yr etholiadau Ewropeaidd yn 2014 ac etholiad cyffredinol y DU yn 2015. Mae hyn yn adeiladu ar ben ein gwaith blaenorol (Cunliffe, 2008, 2011) a archwiliodd y lefelau cymharol o ddarpariaeth Gymraeg ar wefannau’r pleidiau yn ystod etholiad y Cynulliad 2007 ac etholiadau’r DU yn 2010. Byddwn hefyd yn ymwneud â’n gwaith ymchwil blaenorol (Jones, Cunliffe a Honeycutt, 2013) ar gydberthynas Twitter a’r iaith Gymraeg.

Bydd y sgwrs hon, fodd bynnag, yn bennaf yn trafod heriau ‘data rhesymol fawr’. Mae gennym bellach gorpws o dros 40,000 o negeseuon trydar gan 12 plaid wleidyddol, a byddwn yn amlinellu’r heriau o ddadansoddi, ac yn trafod methodolegau posibl ar gyfer adeiladu a darganfod ystyr yn yr hyn yr ydym wedi ei gasglu.

Heno, chwarter canrif yn ôl…

Mae canol Medi’n gyfnod aruthrol o brysur i rywun fel fi, felly prin iawn o amser sydd gyda fi i wneud cyfiawnhad â chwarter canrif o Heno, ond dyma ambell beth na fyddwch chi, hwyrach, wedi’u gweld o’r blaen.

Ychydig o gyd-destun i’r rhaglen gyntaf: ar wahân i Heno (a Pobol y Cwm, oedd yn dychwelyd yr un noson), tybed beth arall oedd ar S4C nos Lun, Medi’r 17eg 1990?

Yn graidd i Heno oedd y syniad o adael y Gaerdydd ddinesig a dod ag S4C yn agosach at y gwylwyr – yn llythrennol felly, drwy adeiladu stiwdio newydd sbon yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, Abertawe. Symudodd y rhaglen i Lanelli tua throad y mileniwm, a maes parcio sydd ar safle’r hen stiwdios bellach (sy’n fwyaf nodedig am fod yn gartref i un o weithiau’r artist cyfoes, Jeremy Deller).

Ond ychydig flynyddoedd cyn dymchwel yr adeilad, mi es i grwydro’r cyrion. Dyma gasgliad Flickr bychan o’r hyn welais i.

Penblwydd hapus iawn i Heno, felly, oddi wrtha i a’r Bois. Unrhyw un am roi punten ar Grammos?

beto_1990-11-02

Englynion ‘gweddol dda’ am y chwaraeydd recordiau, o Eisteddfod 1900

Wedi bod yn hel sgwarnogod drwy’r dydd o ran ymchwil, ond wrth geisio a methu canfod yr union ffynhonnell sydd angen arna i, dyma dod ar draws perl o gystadleuaeth o Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1900. Yn agos at ddiwedd y gyfrol cyfansoddiadau (neu, i fod yn fanwl gywir, cyfrol yr ‘Eisteddfod Transactions’, sydd hefyd yn cynnwys 28 tudalen uniaith Saesneg diflas iawn ar hynt yr Eisteddfod ei hun) fe gewch chi’r feirniadaeth hon ar gystadleuaeth yr englyn.

Wn i ddim a enillodd ‘geirseinydd’ ei blwy yn Gymraeg ar gyfer ‘gramophone’ Edison, ond doedd yr un o’r 89 englyn yn ddigon da i gyfiawnhau colli gini o goffrau’r Steddfod, mae’n debyg. Ffugenw gorau’r gystadleuaeth o bell: Trebor Lleifiad, fyddai’n deitl gwych i B-movie Cymraeg.

Ataliwyd y wobr.

ENGLYN – “Y Geirseinydd.” Gwobr, £1 1s. Beirniad – BERW.
Y Feirniadaeth

Allan o’r pentwr englynion sydd ger fy mron – naw a phedwar ugain mewn nifer – y mae o’r hyn lleiaf naw o rai gwallus ac afreolaidd, sef eiddo Morben, Adlais (1), Dyn byddar, Y Fi, Iota, Cerddgar, Llerpwll, Rhodwyalog, a Trebor Lleifiad.

Nis gellir fodd yn y byd ddweyd fod yma gystadleuaeth ragorol. Englynion digon cyffredin ydyw hyd yn nod y goreuon. Ond yr wyf fi wedi pigo saith o rai gweddol dda, sef cynyrchion Amman, Ap Tubal, Un o’r dorf, Ap Celf, Edison (1), Briglwyd, ac Idris Hywel.

Yr englyn goreu genyf fi ydyw yr un canlynol gan Briglwyd :-

Gwir oll, ddyfeisgar Allu, – ti yn hwn
Ro’ist nerth i barablu;
Yn ddi-wall ef, yn ngwydd llu,
Wnel i feirwon lefaru.

Ond, yn anffodus, y mae y llinell olaf wedi ymddangos eisoes mewn englyn i’r Ysgrifbin, ac yn eiddo cyhoeddus er’s blynyddau. Gresyn hyny hefyd, oblegyd y mae hi yn fwy llythyrenol gywir am y Geirseinydd.

Wedi gorfod troi Briglwyd o’r neilldu am y rheswm hwn, ystyriaf mai Idris Hywel yw yr agosaf ato, er na’m boddheir i yn ei englyn. Gwan ydyw “hynod” yn yr ail linell, ac nid wyf yn hoffi “swn dyn” yn y llinell olaf. Dyma englyn Idris Hywel :-

Parablydd newydd o nod, – gwir swynol,
Yw’r Geirseinydd hynod;
Un diwefus, didafod,
A swn dyn o’i gorn sy’n dod.

Cilfachau electronig

Mi wnes i addo hwn i ambell berson ar Twitter, felly dyma chi: PDF o bapur wnes i ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn Cyfrwng yn 2010, sy’n bwrw golwg ar hanes cynnar iawn y Gymraeg ar-lein. Dyw’r ffurf PDF ddim yn wych ar gyfer y fath beth, a gobeithio caf i gyfle cyn bo hir i droi’r erthygl yn HTML synhwyrol. Beth bynnag, am y tro:

Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein, 1989-1996 (PDF, 230k)

Os oes gan unrhyw un sylwadau, neu awgrymiadau, neu gywiriadau, croeso mawr iawn i chi adael sylw. Mae na lwyth o bethau eraill yr hoffwn i eu dweud am hyn i gyd bellach, wrth reswm, ond mae safle gwych Hanes y We Gymraeg gystal lle â dim i’r drafodaeth honno.

 

Ana(b)log

Wnes i gychwyn swydd newydd yn gynharach y mis ‘ma, a dyna’r prif reswm pam eich bod chi’n darllen hwn, am wn i.

Lecturer in Digital Media, medd yr hyn sydd ar fy nrws – darlithydd cyfryngau digidol, felly, fyddai’r teitl Cymraeg pe byddwn i’n gwneud unrhyw ddysgu trwy gyfrwng yr iaith honno. Ond peidiwch dweud wrth neb, ond rydw i’n bur anesmwyth ynglŷn â’r peth. Nid â’r swydd, deallwch – dyma sut oeddwn i’n teimlo pan wnes i gychwyn, a rydw i dal ar ben fy nigon.

Y broblem yw’r bali gair ‘digidol’ yna. Ymgais amlwg yw e, gan benaethiaid cwricwlwm, i geisio diffinio’r hyn rwy’n ei wneud. Ond yn bell o fod yn rhywbeth blaengar, dibroblem, mae i’r digidol, ac i’r holl gysyniad o ddigidol yn gyffredinol, ei broblemau. Gadewch i fi geisio dangos gymaint o syniad gwael oedd hi i roi’r swydd i fi, wrth i fi’ch drysu chi drwy dechnoleg.

Felly, ddosbarth, dychmygwch fy mod am wybod pa mor dwym yw hi. Dyma i chi thermomedr digidol sy’n gwneud hynny. Beth yw’r dymheredd, nawr, fan hyn?

Wel, ateb digon hawdd, meddech chi. 19.5 gradd Celsiws.

O’r gorau, ddweda i. Beth am y thermomedr merciwri ma? Chi’n gwybod: yr un analog?

A dyma chi’n syllu ar y thermomedr, ac yn sylweddoli hwyrach nad oedd yr ateb digidol mor gywir â hynny. Roedd yn eitha agos i’w le, ond, wrth graffu’n fanwl, fe welwch chi fod 19.7 gradd yn agosach ati. Ac os dewiswch chi ddefnyddio chwyddwydr, neu feicrosgop, neu beth bynnag arall, fe ddewch yn agosach, agosach fyth at y tymheredd go iawn.

Fe welwch chi’r pwynt, gobeithio – ceisio’u gorau glas i efelychu deunydd y byd cig a gwaed wna’r pethau ‘digidol’ ‘ma. Mae ‘na fanteision i wneud hynny, wrth gwrs. Os ydych chi’n gwybod unrhyw beth am theori signalau, fe wyddoch chi fod deunydd digidol yn llawer haws ei drosglwyddo’n glir o’r naill fan i’r llall, heb fod unrhyw ddeunydd arall yn torri ar ei draws. Ac unwaith bod gwybodaeth ar ffurf ddigidol, mae cyfrifiaduron y byd yn medru derbyn, trawsffurfio, dehongli ac anfon mlaen y deunydd hwnnw ar amrantiad: wel, dyna’r theori, o leiaf.

Felly mae’r digidol yn dda, ac yn bŵerus – o fewn rheswm. Gwych iawn os ydych chi’n ceisio anfon dogfen o’r naill ran o’r byd i’r llall: mi wnaiff gyrraedd pen ei thaith yn llawer cyflymach os yw ar ffurf ebost yn hytrach na phapur mewn amlen.

Y peth yw,  mae’r digidol yn llawer llai da, ac yn beryglus hyd yn oed, os ydych chi’n ceisio ei ddefnyddio fel ffordd i ddadlau. Hynny yw, os ydych chi wastad yn anelu at y sero neu’r un, y du neu’r gwyn, y naill begwn neu’r llall. A dyna, fel y gwyddoch chi’n iawn, sy’n nodweddu gymaint o sgyrsiau ar-lein. Dydw i ddim am neidio i dir Marshall McLuhan a thaeru mai’r ‘cyfrwng yw’r neges’ yn gyfangwbl, ond mae’n glir i bawb, rwy’n siŵr, bod ambell gyfrwng yn arwain ei ddenfyddwyr i lawr y llwybr deuaidd hyn. Camp ar y mwyaf yw ceisio cyfathrebu syniadau cymhleth o fewn y 500 o nodau mae sylw YouTube yn ei roi i chi, er enghraifft, heb son am y dim-ond-140 gewch chi wrth drydar.

Ond digon o besimistiaeth. Mae’n edrych yn debyg, i fi, fod na ddadeni o flogio’n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd, a rydyn ni wedi ail-ddarganfod ein rhith-fro ni i raddau helaeth. Mae gan Ifan, Rhodri, Dafydd a Carl, i enwi ond pedwar, gyfraniadau swmpus iawn i bob math o ddadleuon cyfoes. A hyd yn oed pan nad ydw i’n cytuno gant y cant â’r hyn maen nhw’n ei ddweud, mae eu harddull yn gwahodd eraill i gyd-drafod, i gyd-ddadlau ac i gyd-adeiladu eu dadleuon gyda nhw. Nid ‘ie’ neu ‘na’ gewch chi gan y blogwyr gorau, yn fy nhyb i, ond canllaw i’r mannau meddyliol sydd rywle rhwng y ddau begwn. Yn eu meddylfryd, maen nhw’n llawer agosach at yr analog na’r digidol – mae rhesymeg annelwig, weithiau, yn wych o beth.

Felly’r blog hwn hefyd, gobeithio. Dydw i erioed wedi bod yn berson sy’n hoff o eithafion unrhyw ddadl, a rwy’n gobeithio y medra i archwilio’r hyn sy’n fy niddori heb godi gwrychyn neb (ac os gwnaf i, fydd hynny ddim yn fwriadol). Fe flogia i yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ôl fy mympwy, am mai dyna’r math o berson ydw i, er gwell neu waeth. Bydd y mwyafrif o gofnodion o ryw ddefnydd i’m myfyrwyr i, ond fydda i ddim yn ceisio eithrio neb sydd ddim yn deall y dechnoleg na’r syniadaeth y tu ôl iddo.

Ac fy mwriad yw i hwn fod yn hwyl hefyd. Wel, i mi o leiaf. Cawn weld…