Cilfachau electronig

Mi wnes i addo hwn i ambell berson ar Twitter, felly dyma chi: PDF o bapur wnes i ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn Cyfrwng yn 2010, sy’n bwrw golwg ar hanes cynnar iawn y Gymraeg ar-lein. Dyw’r ffurf PDF ddim yn wych ar gyfer y fath beth, a gobeithio caf i gyfle cyn bo hir i droi’r erthygl yn HTML synhwyrol. Beth bynnag, am y tro:

Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein, 1989-1996 (PDF, 230k)

Os oes gan unrhyw un sylwadau, neu awgrymiadau, neu gywiriadau, croeso mawr iawn i chi adael sylw. Mae na lwyth o bethau eraill yr hoffwn i eu dweud am hyn i gyd bellach, wrth reswm, ond mae safle gwych Hanes y We Gymraeg gystal lle â dim i’r drafodaeth honno.

 

3 thoughts on “Cilfachau electronig

  1. Diolch am roi hwn arlein Rhys. Roddai gofnod addas ar y wefan pan ga’i gyfle. Sgwn i os oes sgwrs i gael rhwng ymchwilwyr gwahanol o fewn y Col Cymraeg am ddatblygu cyfnodau/themâu/gwefannau eraill o’r hanes i’r un manylder?

  2. Diolch Rhodri. Yr ateb syml i dy gwestiwn, gobeithio, yw ‘oes’. Mae maes archaeoleg y cyfryngau (nid dim ond y Rhyngrwyd/y We) yn un diddorol dros ben i fi, ac i Gymry eraill gobeithio. Byddai’n wych medru taflu goleuni ar gyfnodau annelwig eraill yn hanes cyfryngau Cymru, boed y cyfryngau hynny’n ddigidol, yn dorfol – llu o bosibiliadau, rwy’n credu.

Comments are closed.